Colin H. Williams

athro ieithyddiaeth gymdeithasol

Mae Colin H. Williams, enw llawn Colin Haslehurst Williams, (ganwyd 1950) yn uwch gydymaith ymchwil yn Ngholeg St Edmund, Prifysgol Caergrawnt. Bu gynt yn Athro ymchwil mewn sosioieithyddiaeth, ac yn ddiweddarach yn Athro er anrhydedd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Colin H. Williams
Enghraifft o'r canlynolbod dynol Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolCymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Bywgraffiad

Cafodd Williams ei eni yn y Barri. Mynychodd Ysgol Gymraeg y Barri ac Ysgol Uwchradd Rhydfelen (a ailenwyd yn Ysgol Gyfun Garth Olwg) cyn dilyn astudiaethau prifysgol ym Mhrifysgol Abertawe. Graddiodd mewn daearyddiaeth a gwleidyddiaeth yn 1972. Yna dechreuodd ei ddoethuriaeth ymchwil ar 'Dirywiad Iaith ac Adfywiad Cenedlaetholgar.' Dyfarnwyd ei Ph.D. gan Brifysgol Cymru yn 1978. Ym mis Tachwedd 2017 dyfarnwyd iddo D.Litt. gan Brifysgol Cymru.

Ym 1973, enillodd Ysgoloriaeth yr English Speaking Union yn Adran Daearyddiaeth, Prifysgol Gorllewin Ontario, Canada a gwnaeth waith maes ar yr heriau sy'n wynebu'r iaith Ffrangeg yn Quebec ac yn Acadia. Wedi dychwelyd i Gymru, fe’i penodwyd yn Diwtor y Brifysgol Agored ac yn Arddangoswr yn Adran Daearyddiaeth, Coleg Prifysgol Abertawe, 1974–1976, cyn cael swydd yn addysgu yn yr Adrannau Daearyddiaeth a Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yng Ngholeg Polytechnig Gogledd Swydd Stafford, sef Prifysgol Swydd Stafford bellach, lle bu'n ddarlithydd, yn brif ddarlithydd ac yn Athro daearyddiaeth. Yn 1993, tra oedd yn gweithio yn Toronto fel Cymrawd Cymdeithas Hanes Amlddiwylliannol Ontario, fe’i penodwyd yn Athro ymchwil, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, y swydd y bu ynddi hyd 2015. Ym mis Mehefin 2015, etholwyd ef yn gymrawd gwadd yn Coleg Sant Edmund, Prifysgol Caergrawnt, lle mae'n arbenigo mewn agweddau ar heddwch a gwrthdaro, hawliau dynol a chysylltiadau lleiafrifol a datblygu polisi cymharol mewn polisïau amlieithog ac amlddiwylliannol.[1] Ym mis Ionawr 2018 cafodd ei enwi’n uwch gydymaith ymchwil Sefydliad Von Hügel, Coleg St Edmund, Prifysgol Caergrawnt, lle mae’n gweithio ar heddwch a chymod mewn cymdeithasau ôl-wrthdaro.

Diddordebau ac arbenigedd

Ei brif ddiddordebau ysgolheigaidd yw ieithyddiaeth gymdeithasol a pholisi iaith mewn cymdeithasau amlddiwylliannol, cysylltiadau ethnig a lleiafrifol a daearyddiaeth wleidyddol. Yn 2002 bu'n gymrawd gwadd yng Ngholeg Mansfield a Choleg yr Iesu ym Mhrifysgol Rhydychen, ac eto yng Ngholeg Mansfield yn 2010. Yn 2009 bu'n athro gwadd yn Adran Gwyddor Wleidyddol, Prifysgol Ottawa hefyd.

Ym mis Ebrill 2000 penododd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ef yn aelod o Fwrdd yr Iaith Gymraeg, swydd a ddaliodd hyd 2011. Ym mis Mai 2013 fe'i etholwyd yn Gymrawd o Gymdeithas Ddysgedig Cymru.[2] Bu'n Athro Anrhydeddus Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberdeen hyd 2009, ac mae'n parhau i fod yn athro daearyddiaeth atodol ym Mhrifysgol Gorllewin Ontario, Canada.

Aelodaeth

Llyfryddiaeth

Mae’n awdur neu'n olygydd nifer o lyfrau, gan gynnwys yr isod. Ceir rhestr llawnach ar wefan Prifysgol Caerdydd.[4]

  • Called Unto Liberty: On Language and Nationalism Multilingual Matters, Clevedon, Avon, 1994
  • The Political Geography of the New World Order, J. Wiley, London, 1993
  • A Welsh Language Board sponsored project on Community Language Planning and Policy, whose first major report was published as Williams, C.H. and Evas, J.C Y Cynllun Ymchwil Cymunedol (The Community Research Project), Welsh Language Board, Cardiff, August 1997, 3rd Edition 2000
  • Language Revitalization in Wales: Policy and Planning Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 2000
  • Language and Governance, Gwasg Prifysgol Cymru, 2007
  • Linguistic Minorities in Democratic Context, Palgrave, 2008
  • Minority Language Promotion, Protection and Regulation: The Mask of Piety, Palgrave, 2013
  • Cydolygu gyda S. Pertot a T. Priestley, Rights, Promotion and Integration Issues for Minority Rights in Europe, Palgrave, 2009
  • Cyd-olygu gyda H.S. Thomas, Parents, Personalities and Power, Gwasg Prifysgol Cymru, 2012.
  • Language Policy and the New Speaker Challenge, Gwasg Prifysgol Caergrawnt, 2023.

Festschrift

  • Iaith, Polisi a Thiriogaeth: A Festschrift for Colin H Williams Gwasg Palgrave Macmillan, 2022 ISBN-10 3030943453. Golygyddion: Wilson McLeod, Rob Dunbar, Kathryn Jones, John Walsh [5]

Ymgynghori

Bu'n ymwneud â phrosiectau ymchwil yn cymharu swydd Comisiynydd Iaith Canada ac Ewrop; ac astudiaeth o Strategaethau Ieithoedd Swyddogol yng Nghanada ac Ewrop.[6] Yn 2022 cwblhaodd brosiect a oedd yn canolbwyntio ar her y Siaradwr Newydd ar gyfer Strategaethau Ieithoedd Swyddogol.[7]

Mae ei brosiect presennol, a gefnogir gan Gymrodoriaeth Emeritws Leverhulme, yn ymchwilio i Gyfundrefnau Ieithoedd Swyddogol sy'n cymharu enghreifftiau o Ewrop ac o Ganada.

Sefydlu Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith

Bu'r Athro Williams yn un o'r rai bu'n gyfrifol am sefydlu Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith yn 2013. Gwnaeth hyn gyda'r Gwyddelod Peadar Ó Flatharta a Seán Ó Cuirreáin wedi iddynt drefnu cynhadledd i drafod hawliau dynol yn Nulyn. Yn dilyn y trafodaethau hynny, cafwyd y syniad o ffurfio Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith.[8]

Anrhydeddu

Ym mis Chwefror 2024 cynhaliwyd digwyddiad i ddathlu cyfraniad yr Athro Williams i ddatblygu astudiaeth a pholisi iaith yng Nghymru, dan y teitl 'Arloesi ac Arfer Da mewn Polisi Iaith'. Roedd siaradwyr o Gymru, Iwerddon, yr Alban, Gwlad y Basg, Catalwnia a Chanada yn trafod meysydd megis trosglwyddo iaith, hyrwyddo, deddfu, a’r heriau i wleidyddion ac i gymdeithas. Trefnwyd y gynhadledd ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.[9]

Daeth hyn ar gefn lansio llyfryn i'r Athro Williams i ddathlu ei waith a'i fywyd ym mis Hydref 2023. Mae Iaith, Polisi a Thiriogaeth: A Festschrift for Colin H Williams yn cynnwys penodau ar ddamcaniaethu polisi a rheoleiddio iaith yn ogystal â heriau i bolisi iaith yng Nghymru, Iwerddon, yr Alban, Canada a Chatalwnia.[10]

Cyfeiriadau

Dolenni allanol