Charles Octavius Swinnerton Morgan
Roedd Charles Octavius Swinnerton Morgan (15 Medi 1803 – 5 Awst 1888), yn Aelod Seneddol Ceidwadol Cymreig a chynrychiolodd Sir Fynwy yn Senedd Prydain Fawr am 33 o flynyddoedd rhwng 1841 a 1874; er hynny nid fel gwleidydd mae'n cael ei gofio'n bennaf ond fel hanesydd, hynafiaethydd a chymwynaswr i'r Amgueddfa Brydeinig[1].
Charles Octavius Swinnerton Morgan | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 15 Medi 1803 ![]() Casnewydd ![]() |
Bu farw | 5 Awst 1888 ![]() Casnewydd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Tad | Syr Charles Morgan, 2ail Farwnig ![]() |
Mam | Mary Margaret Stoney ![]() |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol ![]() |
Bywyd Personol
Ganwyd Morgan yn Nhŷ Tredegar, Casnewydd yn bedwerydd fab i Syr Charles Gould Morgan, 2il Farwnnig a Mary Magdelen (née Stoney) ei wraig. Brodyr iddo oedd Charles Morgan, Barwn Cyntaf Tredegar. roedd yn ewythr i Charles Rodney Morgan, Frederick Courtenay Morgan a Godfrey Charles Morgan
Cafodd ei addysgu yn Ysgol Westminster a choleg Eglwys Crist, Rhydychen lle graddiodd BA ym 1825 ac MA ym 1832.[2]
Roedd yn dibriod.
Gyrfa Wleidyddol
Gwasanaethodd Morgan fel Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Fynwy rhwng 1841 a 1874. Roedd bob amser yn Dori pybyr, yn pleidleisio gyda'i blaid yn ddieithriad; roedd yn erbyn diddymu'r Deddfau Yd, yn erbyn y Mesur Rhyddhad Catholig ac yn gwrthwynebu datgysylltu'r Eglwys Gwladol yng Nghymru a'r Iwerddon[3]. Yn etholiad 1874 ildiodd ei sedd i'w nai a'i gyd Dori, Frederick Courtenay Morgan
Hynafiaethydd
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/2/26/Ship_Clock_at_British_Museum.jpg/220px-Ship_Clock_at_British_Museum.jpg)
Roedd Morgan yn Gymrawd Cymdeithas Hynafiaethwyr Llundain, yn Gymrawd y Gymdeithas Frenhinol a llywydd y Sefydliad Archeolegol. Gwasanaethodd fel is lywydd Cymdeithas yr Hynafiaethwyr fwy nag unwaith a gwasanaethodd fel llywydd Cymdeithas Hynafiaethau Cymru1857-1858.
Roedd gan Morgan casgliad mawr o hynafolion yn ei dy The Friars, Casnewydd gan gynnwys pulpud Tuduraidd o'r hwn yr oedd yn aml yn pregethu i gynulleidfa o'i weision, morynion a gweithwyr yr ystâd.
Roedd yn gasglwr brwd o hynafolion mecanyddol megis cloeon, oriorau, offerynnau seryddol, ac awtomata gan gynnwys galiwn mecanyddol goreurog a roddodd i'r Amgueddfa Brydeinig[4].
Roedd ganddo gasgliad helaeth o fodrwyon esgobion a chasgliad o lwyau. Ar ôl ei farwolaeth cyflwynwyd rhan helaeth o'r casgliad i'r Amgueddfa Brydeinig trwy ei ewyllys[5]. Mae ei gasgliadau o ddogfennau hynafiaethol, a'i gyfieithiadau i'r Saesneg o farddoniaeth Cymraeg yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol.[6]
Cyhoeddiadau
Ysgrifennodd yn helaeth i gylchgronau am yr hynafiaethau a chyhoeddodd nifer o daflenni a llyfrynnau ar y pwnc gan gynnwys:[7]
- Observations on the Early Communion Plate used in the Church of England
- Observations on a Collection of Spoons
- Observations on the History and Progress in the Art of Watchmaking from the Earliest Period to Modern Times (1849)
- A report on the Excavations Prosecuted by the Caerleon Antiquaries Association Within the Walls of Caerwent (1850)
- Assay Marks on Gold and Silver Plate 1852
- Notes on the Architecture of Caldicot Castle, 1854
- Notes on the Ecclesiastical Remains of Runston, Sudbrook, Dinham, and Llanbedr, 1858
- The Monastery of Austin Friars, 1859
- Notes on the Ancient Domestic Residences ot Pentrebach, Crick, Tymawr, The Garn, Crindau, and St. Julians, 1860
- Notes on Treomen, Killwch, aud the Wain 1861
- Notes on Wentwood Castle Troggy and Llanvair 1863
- Pencoyd Castle and Langstone 1864
- Penhow Castle, 1867.
- An account of the monuments at Abergavenny Church, 1869
- Notes on Newport Castle St Woollo's Church and the Lordship of Wentloog
Marwolaeth
Bu farw yn ei gartref the Friars o apoplecsi yn 84 oed[8]. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym meddrod y teulu yn Eglwys St Basil ym Masaleg yn Sir Fynwy[9]. Codwyd tabledi coffa efydd iddo yn eglwysi St Woollos, Casnewydd ac Eglwys Basaleg[10].
Cyfeiriadau
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: William Addams-Williams | Aelod Seneddol Sir Fynwy 1841 – 1874 | Olynydd: Frederick Courtenay Morgan |