Cell gwaed gwyn
Cell waed di-liw amebaidd cnewyllol heb hemoglobin yw cell wen y gwaed (hefyd gwaetgell wen, corffilyn gwyn neu'n feddygol lewcosyt; lluosog: celloedd gwynion), sy'n rhan o'r system imiwnedd sy'n gyfrifol am amddiffyn y corff drwy ymladd micro-organebau drwg a chlefydau heintus. Cynhyrchir y gell wen ym mêr yr asgwrn. Mae'r gell yn tarddu o'r fôn-gell (stem cell) a elwir yn fôn-gell waedfagol (hematopoietig). Maent i'w cael ym mhob rhan o'r corff gan gynnwys y gwaed a'r system lymffatig.[1]
Enghraifft o'r canlynol | math o gell ![]() |
---|---|
Math | cell waed, cell hemal gwahaniaethol, immune cell ![]() |
Rhan o | gwaed ![]() |
Yn cynnwys | monocyt, lymffocyt, niwtroffil, basoffil, eosinophil ![]() |
![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/82/SEM_blood_cells.jpg/220px-SEM_blood_cells.jpg)
Ceir pum math o gell wen[2] a chânt eu dosbarthu a'u gwahaniaethu drwy faint a siâp y gell yn ogystal â'u gwaith.
Mae eu nifer yn dangos cyflwr y corff; gall ormod neu ddim digon ohonyn nhw fod yn arwydd o lewcemia neu ddiffyg haearn yn y corff. Gellir dweud, felly, fod y gell wen yn ddangosydd afiechyd. Mae'r gell iach rhwng 4 ac 119/L. Yn yr Unol Daleithiau, caiff ei fynegi fel 4,000–11,000 cell wen / microlitr o waed.[3] Dyma 1% o holl waed corff dynol oedolyn iach.[4] Pan fo nifer y celloedd gwyn yn uwch na'r norm, ceir lewcosytosis a phan fo'r nifer yn is, ceir lewcopenia.
Geirdarddiad
Daw'r enw o liw'r gell, wedi i waed gael ei gylchdroi ar beiriant mewn labordy. Dônt at ei gilydd yn haen denau rhwng y celloedd cochion a'r plasma gwaed. Y gair gwyddonol yw leukocytes sydd hefyd yn tarddu o liw'r celloedd: y Groeg am 'wyn' yw leuko-' ac ystyr kytos yw llestr wag; trydydd rhan o'r gair yw -cyte sy'n cyfeirio at y gell ei hun. Ar adegau ceir gwawr werdd i'r lliw gwyn yn enwedig pan fo llawer o neutroffiliau yn y sampl oherwydd eu bod yn cynhyrchu cryn dipyn o'r ensym myeloperoxidase.
Mathau
Math | Golwg (micrograff) | Darlun | Bras % mewn oedolyn | Diamedr (μm)[5] | Prif dargedau[4] | Cnewyllyn[4] | Gronynnau[4] | Hyd oes[5] |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Niwtroffil | ![]() | ![]() | 62% | 10–12 | Aml-labedog | Mân, gyda gwawr binc | 6 awr - ychydig ddyddiau | |
Eosinoffil | ![]() | ![]() | 2.3% | 10–12 | Parasytig a llidiol | Dwylabedog | Pinc-oren | 8–12 diwrnod |
Basoffil | ![]() | ![]() | 0.4% | 12–15 | Cynhyrchu histamin | Dwylabedog neu drillabedog | Mawr, glas | Oriau - dyddiau |
Lymffosyt | ![]() | ![]() | 30% | Bach: 7–8 Mawr: 12–15 | Celloedd B a T: rhyddhau gwrthgyrff; ceir eraill. | Ecsentrig | Celloedd-NK a chytotocsig (CD8+) celloedd-T | Celloedd yr ymennydd: blynyddoedd. Gweddill: wythnosau. |
Monosyt | ![]() | ![]() | 5.3% | 12–15[6] | Gallant symud o'r gwaed i feinweoedd amrywiol y corff ee i'r iau. | Arenffurf | Dim | Oriau - dyddiau |