Catrin Stewart

actores a aned yn 1988

Actores o Gymraes yw Catrin Stewart (ganwyd 29 Ionawr 1988). Mae hi'n fwyaf adnabyddus am bortreadu Emma yn y gyfres drama gomedi Stella ar Sky1 a Jenny Fflint yn Doctor Who.[1] Mae hefyd yn portreadu Lily yn Misfits. Cafodd ei pherfformiad theatrig fel Juliet yng nghynyrchiad Headlong o Romeo a Juliet ei ganmol gan The Observer fel "un o'r rhai mwyaf hudolus a theimladwy rwyf wedi gweld."[2]

Catrin Stewart
Ganwyd29 Ionawr 1988 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor ffilm Edit this on Wikidata

Fe fydd yn chwarae rhan efeilliaid yn y ffilm Gymraeg Y Llyfrgell (2016) ac enillodd wobr Perfformiad Gorau mewn Ffilm Nodwedd Brydeinig am y rhan yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Caeredin yn Mehefin 2016.[3]

Bywyd cynnar ac addysg

Fe'i magwyd yng Nghaerdydd ac aeth i Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr. Ei thad yw'r newyddiadurwr a darlithiwr James Stewart. Yn ferch ifanc bu'n cystadlu gyda'r ysgol yn Eisteddfodau. Yn 16 oed, ymunodd â Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ac ar ôl mwynhau'r profiad aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ymddangosodd mewn dwy ran fach ar deledu cyn cael hyfforddiant proffesiynol.[4]

Ffilmyddiaeth

Ffilm

BlwyddynTeitlRhanNodiadau
2003Hearts of Gold
Mawd PowellFfilm deledu
2006Crusade in Jeans
Cecile
2012FrailChloe
2015Y Llyfrgell[5]Nan ac AnaIaith Gymraeg

Teledu

BlwyddynTeitlRhanNodiadau
2007CasualtyMichelle Stevenson1 pennod
2010-2011MisfitsLily2 bennod
2011–presennolDoctor WhoJenny Fflint5 pennod
2012-14, 2016StellaEmma Morris / Choudary

Llwyfan

BlwyddynTeitlRhanNodiadau
2016Cat on a Hot Tin Roof

MaggieTheatr Clwyd
2014The Cherry OrchardAnyaTheatr y Young Vic
2013Longing
2012Romeo a JulietJulietHeadlong

Gwe

FlwyddynTeitlRhanNodiadau
2012Vastra InvestigatesJenny FflintPenodyn Doctor Who

Cyfeiriadau

Dolenni allanol