Canser y brostad

(Ailgyfeiriad o Canser y prostad)

Canser y brostad yw math o ganser sy'n datblygu yn y brostad, chwarren yn y system atgenhedlol gwrywaidd.[1] Mae'r rhan fwyaf o achosion canser y brostad yn tyfu'n araf; fodd bynnag, tyfa rhai yn gymharol gyflym.[2] Gall y celloedd canser lledaenu o'r brostad i ardaloedd eraill yn y corff, ac yn arbennig yr esgyrn a'r nodau lymff.[3] I gychwyn ni achosir unrhyw symptomau. Wrth i benodau’r cyflwr ddatblygu gall rywun gael anawsterau wrth ollwng dŵr, darganfod gwaed yn ei wrin, neu deimlo poendod yn y pelfis, cefn, neu wrth ollwng dŵr.[4] Mae modd i'r afiechyd gordyfiant (hyperplasia) prostadig achosi symptomau tebyg. Ym mhenodau hwyrach yr afiechyd gall sgîl-effeithiau gynnwys blinder o ganlyniad i lefelau isel o gelloedd gwaed coch.

Canser y brostad
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathcanser organau atgenhedlu dynion, neoplasm y brostad, clefyd y prostad, clefyd Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolOncoleg edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ymhlith y ffactorau risg ar gyfer canser y brostad y mae henaint, hanes teuluol o'r clefyd, a hil. Mae oddeutu 99% o achosion ymysg y rheini sydd dros 50 oed. Os ceir hanes teuluol o'r clefyd mewn perthynas o'r radd gyntaf, cynyddir lefel y risg ddwy i deirgwaith. Yn yr Unol Daleithiau mae'r cyflwr yn fwy cyffredin ymysg y boblogaeth Americanaidd Affricanaidd i gymharu â'r boblogaeth wen. Ymhlith y ffactorau risg eraill y mae diet yn cynnwys lefelau uchel o gig wedi'i brosesu, cig coch neu gynhyrchion llaeth ynghyd â diffyg llysiau penodol. Cafwyd hyd i gysylltiad rhwng y clefyd â hadlif, serch hynny ni cheir esboniad boddhaol ar hyn o bryd.[5] Gwneir diagnosis yn seiliedig ar biopsi. Defnyddir delweddu meddygol i ganfod a yw'r canser wedi lledaenu i rannau eraill o'r corff.

Gall nifer o achosion gael eu rheoli os cedwir llygad fanwl ar ddatblygiad y cyflwr. Ymhlith y triniaethau posib y mae cyfuniad o lawdriniaethau, therapïau ymbelydredd, therapïau hormonau neu gemotherapi. Mae'n bosib gwella'r afiechyd os arhosir y canser oddi fewn y brostad.[6] Yn yr achosion hynny lle mae'r clefyd wedi ymledu i'r esgyrn, gall meddyginiaethau poen, bisffosffonates a therapi targedol, ymhlith eraill, fod yn ddefnyddiol. Fel arfer dibynna'r canlyniadau ar oed y dioddefwr ynghyd â phroblemau iechyd eraill, yn ogystal â natur ymosodol a helaeth y canser. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl â chanser y brostad yn marw o'r cyflwr ei hun. Mae 99% o ddioddefwyr yn yr Unol Daleithiau yn cyrraedd y gyfradd goroesi 5 mlynedd.[7] Ar lefel rhyngwladol dyma'r ail ganser fwyaf cyffredin, ac o ran nifer y marwolaethau cysylltiedig â chanser ymysg dynion, canser y brostad yw'r pumed achos fwyaf.[8] Yn 2012 effeithiodd oddeutu 1.1 miliwn o ddynion ac fe arweiniodd at 307,000 o farwolaethau. Cafodd ei nodi fel y canser mwyaf cyffredin ymysg dynion mewn 84 o wledydd, yn benodol yn y byd datblygedig. Cynyddu y mae'r cyfraddau yn y byd datblygol hefyd.[9] Yn y 1980au a'r 1990au gwelwyd ffrwydrad yn y nifer o achosion ar draws llawer o ardaloedd, a hynny o ganlyniad i'r cynnydd ym mhrofion PSA. Wedi astudiaethau ynghylch marwolaethau anghysylltiedig a chanser ymysg dynion dros 60, darganfuwyd canser y brostad yn 30% i 70% ohonynt.

Cyfeiriadau