Canser ofaraidd

Canser ofaraidd yw math o ganser sy'n ffurfio oddi fewn neu ar ofari.[1] Twf annaturiol o gelloedd yw canser, ac maent â'r gallu i ymosod ar, neu ledaenu i rannau eraill o'r corff.[2] Pan gychwynnir y broses hon ni ymddangosir symptomau amlwg. Wrth i'r canser ddatblygu, felly hefyd y gwna'r symptomau.[3] Mae modd iddynt gynnwys bol chwyddedig, poen pelfig, chwyddo ynghylch yr abdomen, colli awydd bwyta, ac eraill. Lledaenir y canser yn aml i fannau eraill, ac ymhlith y lleoliadau mwyaf cyffredin y mae leinin yr abdomen, y nodau lymff, yr ysgyfaint, a'r afu.[4]

Canser ofaraidd
Delwedd:Mucinous lmp ovarian tumour intermed mag.jpg, Clear cell carcinoma ovary.jpg
Enghraifft o'r canlynoldosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathcanser y system atgynhyrchu benywaidd, neoplasm ofaraidd, clefyd ofarïaidd, canser y chwarren endocrin, rare genetic endocrine disease, inherited gynecological tumor, clefyd Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolOncoleg edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r risg o ddatblygu canser ofaraidd yn uwch ymhlith menywod sydd wedi ofylu'n sylweddol yn ystod eu hoes, gan gynnwys y rheini sydd erioed wedi cael plant. Gall hefyd gynnwys y rheini sy'n dechrau ofylu'n ifanc ynghyd ag unigolion sy'n profi'r mislif yn hŷn.[5] Ymhlith y ffactorau risg eraill y mae derbyn therapi hormonau wedi'r mislif, meddyginiaeth ffrwythlondeb, a gordewdra. Gall rai ffactorau lleihau'r risg yn ogystal, er enghraifft rheoli geni hormonaidd, rhwymo pibennol a bwydo o'r fron. Mae oddeutu 10% o achosion yn gysylltiedig â risg genetig etifeddol ac os yr achosir mwtadiad yn y genynnau BRCA1 neu BRCA2 ceir siawns 50% o ddatblygu'r afiechyd.

Ni argymhellir sgrinio menywod yn gyffredinol oblegid nad yw tystiolaeth yn dangos gostyngiad mewn marwolaethau os gwneir hynny. Gall cyfradd uchel o brofion cadarnhaol arwain at lawdriniaethau diangen, sy'n cyflwyno risgiau yn eu hunain.[6] Mewn rhai achosion risg hynod uchel caiff yr ofarïau eu gwaredi o'r corff. Gellir dileu'r canser yn gyfan gwbl os caiff y cyflwr ei ddal a'i drin yn ei benodau cychwynnol. Fel arfer y mae triniaethau'n cynnwys cyfuniad o lawdriniaethau, therapïau ymbelydredd, a chemotherapi.[7] Mae canlyniadau'n ddibynnol ar ledaeniad y clefyd, pa fath o is-ganser sy'n bresennol, ynghyd ag elfennau meddygol eraill.[8] Yn yr Unol Daleithiau goroesa 45% o ddioddefwyr o leiaf pum mlynedd wedi eu diagnosis. Ni cheir canlyniadau mor gry' yn y byd datblygol.[9]

Cyfeiriadau