Canabis (cyffur)

Mae canabis, a elwir hefyd yn mariwana[1], ganja (Hindi: गांजा gānjā), gêr, reu,[2] neu mwg drwg yn gynnyrch seicoweithredol sy'n deillio o'r planhigyn Canabis. Mae ffurf berlysiol y cyffur yn cynnwys blodau aeddfed y planhigyn wedi'u sychu ynghyd â dail o'r planhigyn. Mae'r ffurf resin, sy'n cael ei alw'n hashish yn bennaf, yn cynnwys blew chwarennol wedi'u casglu'r o'r un defnydd planhigyn.Y prif gyfansoddyn cemegol biolegol byw mewn canabis yw Δ9-tetrahydrocannabinol (delta-9-tetrahydrocannabinol), a gyfeirir ato'n gyffredinol fel THC.Mae'r ddynol ryw wedi bod yn defnyddio canabis ers cyn hanes, ond ers yr 20g mae cynnydd wedi bod yn y defnydd ohono at ddibenion hamdden, crefyddol, ysbrydol a meddygol. Amcangyfrifir bod tua phedwar y cant o boblogaeth oedolion y byd yn defnyddio canabis yn flynyddol, a 0.6 y cant yn ddyddiol.[3] Daeth bod ym meddiant, defnyddio neu werthu cynnyrch seicoweithredol canabis yn anghyfreithiol yn y rhan fwyaf o wledydd y byd yn ystod yr 20g. Ers hynny, mae rhai gwledydd wedi ceisio gwahardd y defnydd o ganabis yn llwyr, tra bo gwledydd eraill wedi dewis ei gyfreithloni neu leihau lefel difrifoldeb bod â chanabis yn eich meddiant.

Blodyn sychedig canabis

Cyfeiriadau