Camlas Grand Union

Camlas sy'n cysylltu Llundain a Birmingham yw Camlas Grand Union.[1] Mae’n 137 milltir o hyd ac mae 166 o lociau. Mae canghennau’n mynd i Gaerlŷr, Slough, Aylesbury, Wendover a Northampton. Crewyd y Grand Union gan uno Camlas Grand Junction a Chamlas Regent

Camlas Grand Union
Mathcamlas Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSwydd Gaerlŷr, Swydd Buckingham, Berkshire, Swydd Warwick, Swydd Northampton, Swydd Hertford Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau52.0508°N 0.734°W Edit this on Wikidata
Hyd220 cilometr Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethGrand Union Canal Company Edit this on Wikidata
Y gamlas yn ymyl Long Itchington
Y gamlas yn Swydd Buckinghan

Mae’r gamlas yn cysylltu ag Afon Tafwys yn Brentford, ac mae dros 50 o lociau rhwng Afon Tafwys a chopa Bryniau Chiltern. Mae’r gamlas yn mynd trwy Stoke Bruerne, lle mae Amgueddfa’r Camlesi, a Braunston. Mae twneli ger Braunston a Blisworth. Mae’r gamlas yn mynd trwy Leamington Spa a Warwick ar ei ffordd i Birmingham. Mae 21 o lociau yn Hatton sydd erbyn hyn wedi cael y llysenw ‘Stairway to Heaven’. Ailadeiladwyd y lociau gyda choncrit gan 1,000 o ddynion dros gyfnod o 2 flynedd.[2]

Cangen Paddington a Chamlas Regent

Mae’n mynd heibio Parc Regent Sw Llundain a Camden Town cyn ymuno ag Afon Tafwys ym Masn Limehouse.[2]

Cangen Caerlŷr

Mae’n gadael y brif gamlas wrth Gyffordd Norton, i’r de o Braunston, gan ddringo ac wedyn syrthio cyn ymuno ag Afon Soar yn ymyl Loughborough, ac ar ôl 10 milltir arall mae'n ymuno ag Afon Trent ger Kegworth. Mae dwy dwnel ger Crick a Husband’s Bosworth, cyfres o lociau yn Watford, a Foxton, ac mae man uchaf y gangen rhyngddynt. Disodlwyd 10 o lociau Foxton gyda plân ar oleddf, yn codi cychod 75 troedfedd, ym 1900, ond wedi problemau, ail agorwyd y lociau ym 1908.[2]

Cangen Slough

Mae’n estyn am 5 milltir i’r gorllewin o Cowley Peachey..

Cangen Wendover

Yn cael ei adnewyddu gan Ymddiriodolaeth Cangen Wendover.[3]

Cangen Aylesbury

Mae’n disgyn drwy 16 o lociau i Aylesbury.

Cangen Northampton

Mae’n mynd o Gyffordd Gayton ac yn cysylltu ag Afon Nene.

Cangen Saltisford

Wedi'i hadnewyddu gan Ymddiriodolaeth Camlas Saltisford, mae’n gangen fer yn mynd i ganol Warwick.[4]

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am gludiant. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Lloegr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.