C.P.D. Merched Tref Aberystwyth

clwb pêl-droed merched

Mae C.P.D. Merched Tref Aberystwyth yn dîm pêl-droed, sy'n chwarae yn Uwch Gynghrair Merched Cymru, y buont yn aelodau sylfaenol ohono yn 2009.[1] Yn wir, chwaraewyd gêm gyntaf erioed y gynghrair newydd, a adnabwyd fel Cynghrair Merched Cymru yn Aberystwyth pan chwaraeodd Aber yn erbyn C.P.D. Merched Llanidloes ym mis Medi 2009.[2]

Merched Tref Aberystwyth
Enw llawnC.P.D. Merched Tref Aberystwyth (Aberystwyth Town Ladies' Football Club)
LlysenwauThe Seasiders
MaesCoedlan y Parc
Aberystwyth
(sy'n dal: 5,000 (1,002 sedd))
CadeiryddDonald Kane
RheolwrCarwyn Phillips
CynghrairAdran Premier
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref

Mae'r clwb yn chwarae ei gemau cartref ym maes Coedlan y Parc, Aberystwyth, sydd â lle i 5,000.

Hanes

Cyd-sefydlwyd y tîm dan ysbrydolaeth Ray Hughes oddeutu 2004 yn rhannol wedi iddo weld dyheuad a llwyddiant merched lleol, yn cynnwys ei ferch Lucy (Walker, bellach) i chwarae'r gêm. Roedd Hughes wedi hyfforddi timau merched i gystadlu yng Cystadleuaeth Bêl-droed Ian Rush a gynhaliwyd yn y dref yn flynyddol a Thwrnament Pêl-droed Merched a gynhaliwyd yn Aberhonddu[3] Bu Hughes yn reolwr ar y tîm am bron i ddegawd, hyd nes 2013-2015, ac yna, nôl eto wedi 2015 am gyfnod.

Gêm Gyntaf Cynghrair Merched Cymru

Roedd y tîm yn un sylfaenwyr yr Uwch Gynghrair yn 2009. Chwarawyd gêm gyntaf erioed y Gynghrair newydd ar nos Wener, 24 Medi 2009 yng Nghoedlan y Parc yn erbyn Merched Llanidloes o flaen torf o bron i 400. Enillodd Aberystwyth y gêm, 2 - 0. Y person gyntaf i sgorio yn y Gynghrair oedd chwaraewraig Aberystyth, Sam Gaunt, a'r ail oedd Leanne Bray. Y person gyntaf i dderbyn carden felen oedd, Lucy Hughes, merch Ray Hughes.[3]

Sefydlu yn yr Uwch Gynghrair

Bu tîm Merched Aberystwyth yn aelodau cyson o'r lîg nes ddisgyn adran ar ddiwedd tymor 2016-17.[4] Ar ôl dau dymor yn ail haen pêl-droed Cymru i Ferched, dyrchafwyd Merhed Aberystwyth nôl i Uwch Gynghrair Cymru ar gyfer tymor 2019-20.

Yn nhymor 2019-20 roedd Aberystwyth ar waelod yr Uwch Gynghrair yn safle rhif 8,[5] ond enillodd y tîm wobr 'Chwrae Teg' yr Uwch Gynghrair.[6]

Ar gyfer tymor 2021-22 cafwyd ad-drefniad ac ailfrandiad arall wrth newid stwythur pêl-droed merched Cymru i Adran Premier (yr Uwch Gynghrair) ac yna dau Adran ranbarthol (lefel 2) sef Adran Gogledd ac Adran De. Roedd Aberystwyth yn un o'r 8 tîm yn yr Adran Premier.

Cynhwyswyd C.P.D.M. Aberystwyth yn nhymor gyntaf yr Uwch Gynghrair a strwythur newydd pêl-droed merched Cymru pan lansiwyd Genero Adran Premier yn nhymor 2021-22.[7] Roedd gêm gyntaf Aberystwyth yn yr Adran newydd yn erbyn C.P.D. Tref Barri ar 5 Medi 2021 gydag Aberystwyth yn ennill 3-1. Sgorwraig gyntaf i Aberystwyth, a'r gôl gyntaf yn yr Adran Premier, oedd Elin Jones.[8]

Cit

Mae'r cit cartref y tîm yn dilyn yr un patrwm â stribed tîm dynion C.P.D. Tref Aberystwyth sef crysau gwyrdd gyda trim du a gwyn, siorts du a sanau. Y stribed chwarae oddi cartrf yw crysau gwyn gyda trim gwyrdd, siorts gwyrdd a sanau.

Carfan

Diweddarwyd 8 September 2023[9]

Nodyn: Diffinnir y baneri cenedlaethol o dan reolau FIFA. Gall y chwaraewyr, felly, fod o fwy nag un cenedl.

RhifSafleChwaraewr
Margot Farnes
Lucie Gwilt
Rebecca Mathias (vice-captain)
Bethan Roberts
Elin Jones
Kelly Thomas
Niamh Duggan
Emily Thomas
Libby Isaac
Shauna Chambers
Ffiona Evans
Gwenllian Jones
Lily Moralee-Hughes
Tania Wylde
Imi Scourfield
Amy Jenkins (captain)
RhifSafleChwaraewr
Sian Evans
Modlen Gwynne
Lleucu Mathias
Sophie Steele

Rheolwr y tîm ar gyfer 2020-21 oedd Carwyn Phillips.[10]

Dolenni allanol

Cyfeiriadau