Bundesliga yr Almaen

Y Fußball-Bundesliga (Cymraeg: "y Gynghrair Bêl-droed Ffederal") yw prif adran bêl-droed yr Almaen. Mae 18 tîm yn cystadlu yn y gynghrair gyda timau yn disgyn i – ac yn esgyn o – 2. Bundesliga. Mae'r tymor yn rhedeg rhwng Awst a Mai.

Bundesliga
GwladGermany
CydffederasiwnUEFA
Sefydlwyd1963; 61 blynedd yn ôl (1963)
Nifer o dimau18
Lefel ar byramid1
Disgyn i2. Bundesliga
Cwpanau
  • DFB-Pokal
    DFL-Supercup
Cwpanau rhyngwladol
Pencampwyr PresennolBayern Munich (28th title)
(2021/22)
Mwyaf o bencampwriaethauBayern Munich (21 titles)
Prif sgoriwrGerd Müller (365)
Partner teleduList of broadcasters
Gwefanbundesliga.de
2021–22 Bundesliga

Mae 54 clwb gwahanol wedi cystadlu yn y Bundesliga ers y tymor cyntaf ym 1963 a FC Bayern München yw'r tîm mwyf llwyddiannus ar ôl ennill 26 o bencampwriaethau.

Hanes

Ffurfiwyd y Deutscher Fußball Bund (Cymraeg: Cymdeithas Bêl-droed yr Almaen) (DFB) ar 28 Ionawr 1900 yn Leipzig gydag 86 o glybiau yn aelod. Cyn sefydlu'r Bundesliga roedd pêl-dreod yn yr Almaen yn cael ei chwarae mewn sawl cynghrair amatur gyda'r pencampwyr yn cystadlu mewn gemau ail gyfle am yr hawl i chwarae yn y rownd derfynol a chael eu coroni'n bencampwyr. Y pencapwyr swyddogol cyntaf oedd VfB Leipzig drechodd DFC Prague 7–2 mewn gêm chwaraewyd yn Altona ar 31 Mai 1903[1].

Wedi'r Ail Ryfel Byd a buddugoliaeth annisgwyl Gorllewin yr Almaen yng Nghwpan y Byd 1954 daeth galw am gynghrair genedlaethol gan hyforddwr y tîm, Sepp Herberger ond bu rhaid disgwyl tan 1962 a pherfformiad siomedig y tîm cenedlaethol yng Nghwpan y Byd 1962 cyn i glybiau'r DFB bleidleisio o blaid sefydlu'r Bundesliga.

Y Tymor Cyntaf

Yr 16 tîm cafodd eu dewis i fod yn y Bundesliga ar gyfer y tymor cyntaf oedd Borussia Dortmund, Eintracht Braunschweig, Eintracht Frankfurt, Hamburger SV, Hertha BSC, 1. FC Kaiserslautern, Karlsruher SC, 1. FC Köln, Meidericher SV Duisburg, 1860 München, 1. FC Nürnberg, 1. FC Saarbrücken, FC Schalke 04, VfB Stuttgart a Werder Bremen gydag 1. FC Köln yn dod y pencampwyr cyntaf a Preußen Münster a 1. FC Saarbrücken yn dod y clybiau cyntaf i gwympo allan o'r Bundesliga[2].

Pencampwyr

TymorPencampwyrTymorPencampwyrTymorPencampwyrTymorPencampwyr
1963-641. FC Köln (1)1977-781. FC Köln (2)1991-92VfB Stuttgart (2)2004-05FC Bayern München (18)
1964–65SV Werder Bremen (1)1978-79Hamburger SV (1)1991-92VfB Stuttgart (2)2005-06FC Bayern München (19)
1965-66TSV 1860 München (1)1979-80FC Bayern München (5)1992-93SV Werder Bremen (2)2006-07VfB Stuttgart (3)
1966–67Eintracht Braunschweig (1)1980-81FC Bayern München (6)1993-94FC Bayern München (12)2007-08FC Bayern München (20)
1967-681. FC Nürnberg (1)1981-82Hamburger SV (2)1994-95Borussia Dortmund (1)2008-09VfL Wolfsburg (1)
1968-69FC Bayern München (1)1982-83Hamburger SV (3)1995-96Borussia Dortmund (2)2009-10FC Bayern München (21)
1969-70Borussia Mönchengladbach (1)1983-84VfB Stuttgart (1)1996-97FC Bayern München (13)2010-11Borussia Dortmund (4)
1970–71Borussia Mönchengladbach (2)1984-85FC Bayern München(7)1997-981. FC Kaiserslautern (2)2011-12Borussia Dortmund (5)
1971-72FC Bayern München (2)1985-86FC Bayern München (8)1998-99FC Bayern München (14)2012-13FC Bayern München (22)
1972-73FC Bayern München (3)1986-87FC Bayern München (9)1999-00FC Bayern München (15)2013-14FC Bayern München (23)
1973-74FC Bayern München (4)1987-88SV Werder Bremen (2)2000-01FC Bayern München (16)2014-15FC Bayern München (24)
1974-75Borussia Mönchengladbach (3)1988-89FC Bayern München(10)2001-02Borussia Dortmund (3)2015-16FC Bayern Münchenn (25)
1975-76Borussia Mönchengladbach (4)1989-90FC Bayern München (11)2002-03FC Bayern München (17)2016-17FC Bayern München (26)
1976-77Borussia Mönchengladbach (5)1990-911. FC Kaiserslautern (1)2003-04SV Werder Bremen (4)2017-18

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.