Brych coed

rhywogaeth o adar
Brych coed
Turdus viscivorus

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas:Animalia
Ffylwm:Chordata
Dosbarth:Aves
Urdd:Passeriformes
Teulu:Turdidae
Genws:Turdus[*]
Rhywogaeth:Turdus viscivorus
Enw deuenwol
Turdus viscivorus



Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Brych coed (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: brychion coed) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Turdus viscivorus; yr enw Saesneg arno yw Mistle thrush. Mae'n perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn T. viscivorus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.

Mae Brych y Coed yn edrych yn debyg iawn i'r Fronfraith ar yr olwg gyntaf, ond mae yn aderyn mwy na'r Fronfraith ac yn edrych yn fwy llwyd ar y pen a'r cefn a llai o liw browngoch ar y fron. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond mae adar sy'n nythu yn y gogledd yn symud tua'r de yn y gaeaf. Yn y gaeaf maent weithiau yn dod at ei gilydd yn heidiau ond anaml y gwelir mwy na rhyw 30 gyda'i gilydd. Maent yn nythu mewn coed fel rheol.

Pryfed ac aeron yw eu prif fwyd. Yn y gaeaf maent yn aml yn amddiffyn coeden sy'n llawn o aeron, gan ymlid unrhyw aderyn arall sy'n ceisio eu bwyta. Mae'n aderyn cyffredin yng Nghymru er ei fod yn llai adnabyddus na'r Fronfraith.

Turdus viscivorus

Teulu

Mae'r brych coed yn perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaethenw tacsondelwedd
BronfraithTurdus philomelos
Bronfraith MongoliaTurdus mupinensis
Brych Grand CaymanTurdus ravidus
Brych daear SiberiaGeokichla sibirica
Brych gyddfdduTurdus atrogularis
Brych gyddfgochTurdus ruficollis
Brych tywyll AmericaTurdus nigrescens
Brych y coedTurdus viscivorus
Coch dan adainTurdus iliacus
MwyalchenTurdus merula
Mwyalchen y mynyddTurdus torquatus
Socan eiraTurdus pilaris
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Safonwyd yr enw Brych coed gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.