Brenhines Sheba

Person a grybwyllir gyntaf yn y Beibl Hebraeg yw Brenhines Sheba (Musnad: 𐩣𐩡𐩫𐩩𐩪𐩨𐩱). Yn y stori wreiddiol, mae'n dod â charafan o roddion gwerthfawr i'r Brenin Solomon. Mae'r hanesyn wedi cael ei ddatblygu'n helaeth mewn cyd-destunau Iddewig, Islamaidd ac Ethiopaidd, ac wedi dod yn destun i un o'r cylchoedd chwedlonol ehangaf a mwyaf ffrwythlon yn y Dwyrain.[1]

Brenhines Sheba a'r Brenin Solomon, o Hanes y Wir Groes gan Piero della Francesca

Mae haneswyr modern yn cysylltu Sheba gyda theyrnas Saba yn Ne Arabia, yn Iemen heddiw. Mae bodolaeth y frenhines yn destun dadl a heb ei gadarnhau gan haneswyr.[2]

Cyfeiriadau