Bisged Garibaldi
Mae Bisged Garibaldi yn cynnwys cyrens wedi eu gwasgu rhwng dwy fisged tenau hirsgwar, yn debyg i brechdan gyrens, oherwydd hynny mae'n debyg i'r Deisen Eccles sy'n llawer mwy a ganddo grwst haenog. Maent i'w cael yng Ngwledydd Prydain ers rhyw 150 o flynyddoedd. Bwytir bisgedi Garibaldi fel rheol gyda diod megis te neu goffi.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | math o fwyd neu saig ![]() |
---|---|
Math | bwyd, Bisged ![]() |
Deunydd | grawnwin, blawd gwenith, llaeth, menyn, siwgr ![]() |
Gwlad | Lloegr ![]() |
Yn cynnwys | cwrens Zante ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Hanes
Enwyd y fisged Garibaldi ar ôl Giuseppe Garibaldi, arweinydd milwrol a gwleidyddol Eidalaidd, a ymwelodd â Tynemouth, Lloegr ym 1854. Cynhyrchwyd y fisged am y tro cyntaf yn ffatri bisgedi Peek Freans yn Bermondsey ym 1861 yn dilyn recriwtiaid John Carr, un o wneuthurwyr bisgedi mawrion yr Alban. Cynhyrchwyd fisged tebyg yn yr Unol Daleithiau gan y Sunshine Biscuit Company am nifer o flynyddoedd, dan yr enw "Golden Fruit". Prynwyd y cwmni hon gan Keebler Company a gynhyrchodd fersiwn gyda amryw o ffrwythau gwahanol cyn dod a'r cynhyrchiad i ben yn gyfan gwbl.
Dolenni allanol
- (Saesneg) Hanes bisgedi Garibaldi