Birgitta Trotzig

Awdures o Sweden oedd Birgitta Trotzig (11 Medi 1929 - 14 Mai 2011) a oedd yn feirniad llenyddol, bardd|fardd]] ac yn awdur ysgrifau. Roedd yn un o awduron mwyaf poblogaidd ei chenhedlaeth.[1][2][3]

Birgitta Trotzig
GanwydAstri Birgitta Kjellén Edit this on Wikidata
11 Medi 1929 Edit this on Wikidata
Göteborg Edit this on Wikidata
Bu farw14 Mai 2011 Edit this on Wikidata
Lund Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Sweden Sweden
Galwedigaethysgrifennwr, beirniad llenyddol, awdur ysgrifau, bardd Edit this on Wikidata
Swyddseat 6 of the Swedish Academy Edit this on Wikidata
TadOscar Kjellén Edit this on Wikidata
MamAstri Rodhe Edit this on Wikidata
PriodUlf Trotzig Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Selma Lagerlöf, Gwobr Dobloug, Medal Diwylliant ac Addysg, Gwobr Aftonbladet am lenyddiaeth, Gwobr Aniara, Prif Gwobr Samfundet De Ni, Gwobr Kellgren, Gwobr Övralid, Sveriges Radio's Poetry Prize, Gerard Bonnier Poetry Award Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Göteborg, ail ddinas fwyaf poblog Sweden a bu farw yn Lund, Scania yn ne Sweden ac fe'i claddwyd yno ym Mynwent Norra.[4][5][6][7][8][9][10]

Magwraeth

Ganwyd Trotzig yn unig blentyn, gyda'r teulu'n byw i ddechrau gyda'i neiniau a theidiau o ochr ei mam, yn Gothenburg, gan symud yn ddiweddarach i ddinas fach ddeheuol Kristianstad, lle'r oedd rhieni ei rhieni yn gweithio fel athrawon. Graddiodd o'r ysgol ramadeg / ysgol uwchradd ym 1948.[11] Dychwelodd Trotzig i Gothenburg ac astudiodd hanes llenyddol.[12]

Priodi a gwaith

Priododd yr arlunydd a cherflunydd Ulf Trotzig[13] a bu'r ddau yn byw ym Mharis rhwng 1955 a 1969[14]. Yn ystod y cyfnod hwn, trodd i fod yn aelod o'r Eglwys Gatholig a thrwy hyn, cafodd fynediad i wahanol agweddau ar ddiwylliant Ffrengig ac at gyfriniaeth Gristnogol ac Iddewig; magodd ddiddordeb yn San Juan de la Cruz a Pierre Teilhard de Chardin.[12]

Derbyniodd Birgitta Trotzig lawer o wobrau llenyddol, gan gynnwys y Wobr Övralid yn 1997. Roedd Birgitta Trotzig yn byw yn Lund ac yn parhau i fod yn weithgar ym mywyd cyhoeddus a chyda phrosiectau amrywiol o fewn Academi Sweden am lawer o'i hoes.[12]

Ar 15 Mai 2011, cyhoeddodd Peter Englund fod Birgitta wedi marw y dywrnod cynt, wedi salwch hir.[15]

Cyhoeddiadau

Ffuglen

  • Ur de älskandes liv (Stockholm: Bonnier, 1951, "From the Life of Those Who Love")
  • Bilder (Stockholm: Bonnier, 1954)
  • De utsatta: En legend (Stockholm: Bonnier, 1957, "The Exposed")
  • Ett landskap: Dagbok, fragment 54-58 (Stockholm: Bonnier, 1959)
  • En berättelse från kusten (1961, "A Tale from the Coast")
  • Utkast och förslag (Helsinki: Söderström, 1962; Stockholm: Bonnier, 1962)
  • Levande och döda: Tre berättelser (Helsinki: Söderström, 1964; Stockholm: Bonnier, 1964)
  • Sveket (Stockholm: Bonnier, 1966)
  • Ordgränser (Stockholm: Bonnier, 1968)
  • Teresa (Stockholm: Bonnier, 1969)
  • Sjukdomen (Stockholm: Bonnier, 1972)
  • I kejsarens tid: Sagor (Stockholm: Bonnier, 1975, "In the Time of the Emperor")
  • Berättelser (Stockholm: Bonnier, 1977, "Stories")
  • Jaget och världen (Stockholm: Författarförlaget, 1977)
  • Anima: Prosadikter (Stockholm: Bonnier, 1982)
  • Dykungens dotter: En barnhistoria (Stockholm: Bonnier, 1985)
  • Porträtt: Ur tidshistorien (Stockholm: Bonnier, 1993)
  • Sammanhang: Material (Stockholm: Bonnier, 1996)
  • Dubbelheten: tre sagor (Stockholm: Bonnier, 1998, "Doubleness: Three Tales")
  • Gösta Oswald (Stockholm: Norstedt, 2000)

Ysgrifau

  • Utkast och förslag (1962, "Sketches and Ideas")
  • Jaget och världen (1977, "The Ego and the World")

Aelodaeth

Bu'n aelod o Academi Swedeg (1993) a Chymdeithas y Naw am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Selma Lagerlöf (1984), Gwobr Dobloug (1970), Medal Diwylliant ac Addysg (2004), Gwobr Aftonbladet am lenyddiaeth (1961), Gwobr Aniara (1981), Prif Gwobr Samfundet De Ni (1963), Gwobr Kellgren (1991), Gwobr Övralid (1997), Sveriges Radio's Poetry Prize, Gerard Bonnier Poetry Award .


Cyfeiriadau