Baner Tsiad

Baner drilliw fertigol o stribedi glas, melyn a choch yw baner Tsiad, a fabwysiadwyd ar 6 Tachwedd 1959. Mae'r glas yn cynrychioli afonydd, coedwigoedd a'r awyr, mae melyn yn symboleiddio yr haul, tywod a'r anialwch, ac mae coch yn symbol o aberth a'r gwaed a dywyswyd yn y frwydr am annibyniaeth.[1][2] Mae'r faner yn cyfuno dau o'r lliwiau pan-Affricanaidd (coch a melyn) gyda dau o liwiau baner Ffrainc (glas a choch).[2] 2:3 yw cymhareb y faner hon.[1][2]

Baner Tsiad

Mae'n debyg iawn i faneri Rwmania ac Andorra.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  • (Saesneg) Tsiad (Flags of the World)