Awtistiaeth

Anhwylder yw awtistiaeth, lle ceir anawsterau gyda rhyngweithio cymdeithasol a chyfathrebu, ymddygiad cyfyngedig ac ailadroddus a phatrymau ymddygiad annormal.[1] Mae'r symtomau cynharaf yn dod i'r amlwg cyn bod y plentyn yn dair oed, gan ddatblygu'n raddol.[2]

Awtistiaeth
Enghraifft o'r canlynolanabledd, anhwylder datblygiadol hydreiddiol, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathsbectrwm awtistiaeth, clefyd, neurodiversity, anhwylder niwroddatblygol Edit this on Wikidata
Y gwrthwyneballism Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Canllaw gan Lywodraeth Cymru: Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth

Mae awtistiaeth yn gysylltiedig â chyfuniad o ffactorau genetig ac amgylcheddol.[3] Ymhlith y ffactorau a alla gynyddu'r risg yn ystod beichiogrwydd mae heintiau penodol, fel rwbela (neu'r Frech Almaenig), tocsinau gan gynnwys asid falproig, alcohol, cocên, plaladdwyr, plwm, a llygredd aer, cyfyngiad twf y ffetws, a chlefydau hunanimiwn.[4]

Mae awtistiaeth yn effeithio ar brosesu gwybodaeth yn yr ymennydd a sut mae celloedd nerfol a'u synapsau yn cysylltu ac yn trefnu; ni ddeellir yn iawn sut mae hyn yn digwydd.[5]

Mae'r Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (DSM-5) yn cyfuno awtistiaeth gydag anhwylderau llai difrifol, megis Syndrom Asperger, o fewn diagnosis o'r sbectrwm ASD (autism spectrum disorder).[6]

Gall newid ymddygiad cynar neu therapi lleferydd helpu plant ag awtistiaeth i ennill sgiliau hunanofal, cymdeithasol a chyfathrebu. Er nad oes iachâd o'r clefyd ar hyn o bryd, maae na achosion o blant sydd wedi gwella. Ni all rhai oedolion awtistig fyw'n annibynnol. Mae diwylliant awtistig wedi datblygu, gyda rhai unigolion yn ceisio iachâd ac eraill yn credu y dylid derbyn awtistiaeth fel gwahaniaeth i gael ei dderbyn gan gydeithas yn hytrach na'i wella.[7][8]

Cyfeiriadau