Llun lloeren o hecsagon Sadwrn. Mae'r hecsagon (sydd wedi'i leoli ger pegwn gogleddol Sadwrn ddwywaith maint y Ddaear.Ardal uwch atmosffer y ddaear
Haen o nwyon yw'r atmosffer (hefyd "atmosffêr"; o'r Groeg ἀτμός - atmos, "vapor" + σφαίρα - sphaira, "sffêr") sy'n amgylchynu planed neu gorff digon sylweddol i'w gadw drwy atyniad ei ddisgyrchiant.
Mae rhai planedau megis y Cewri Nwy, sef pedair planed allanol Cysawd yr Haul, yn ddim byd ond nwy, ac felly fe ellir dweud fod ganddynt atmosffer twfn.
Prif erthygl: Atmosffer y ddaear Fel nifer o blanedau eraill, mae gan y Ddaear hithau fantell o nwyon amddifynnol o'i hamgylch sy'n eu hamddiffyn rhag tymheredd eithafol.
Gwasgedd atmosfferig yw'r grym ar roddir yn berpendicwlar ar wyneb gan nwyon a chyfrifir hyn bob yn uned o arwynebedd. Mae'r gwasgedd atomosfferig yn ddibynol ar faint grym ei disgyrchiant a chyfanswm màs y golofn o nwyon uwch ei phen. Ar y Ddaear, mae'r unedau o wasgedd aer wedi eu safoni a gelwir hwy yn 'uned atmosfferig' (atm), a ddiffinir fel 101,325 Pa (760 Torr sef 14.696 pwys / modfedd agwâr (psi).
Pan ffurfiodd y Ddaear am y tro cyntaf 4.5 biliwn o flynyddoedd yn ôl roedd yr atmosffer wedi gwneud yn bennaf o heliwm (50%) a hydrogen (50%).Roedd gweithgaredd folcanig dwys am y biliwn blwyddyn nesaf yn rhyddhau carbon deuocsid, amonia, ager (anwedd dwr), methan, carbon monocsid, asid hydroclorig yn ogystal â nwyon sylffwr gwahanol.Dros amser cyddwysodd y dŵr i ffurfio cefnforoedd lle datblygodd bacteria ffotosynthetig.Gwelodd leihad yn y carbon deuocsid a chynyddiad yn yr ocsigen.Roedd lleihad yn amonia'r aer gan ei fod yn adweithio a'r ocsigen i greu nitrogen ac anwedd dwr.[1]Roedd lleihad yn y methan gan fod yn adweithio a'r ocsigen i ryddhau ocsigen ac anwedd dwr.Dros amser hir iawn cafodd y carbon deuocsid ei gloi o fewn creigiau gwaddodol oedd yn ffurfio o gregyn anifeiliaid morol (calchfaen a sialc) drwy broses o'r enw ffosileiddio. Hefyd roedd carbon deuocsid yn hydoddi yn y cefnforoedd.Arosodd yr atmosffer yn weddol sefydlog am amser hir nes i weithgaredd dynol gynyddu cyfansoddiad carbon deuocsid o 0.3% a 0.4% drwy hylosgi tanwyddau ffosil fel glo, olew a nwy.