Athroniaeth
Astudiaeth o sut y dylem fyw (moeseg), sut mae pethau'n bodoli (metaffiseg), natur gwybod (epistemoleg), a rhesymeg yw athroniaeth.
Enghraifft o'r canlynol | disgyblaeth academaidd, pwnc gradd, cangen o wyddoniaeth, maes gwaith, Genre |
---|---|
Math | system gwybodaeth |
Rhan o | dyniaethau |
Yn cynnwys | Ontoleg, metaffiseg, epistemoleg, athroniaeth gwyddoniaeth, athroniaeth foesol, athroniaeth rhesymeg, estheteg, athroniaeth wleidyddol, moeseg, rhesymeg, philosophy of language, Athroniaeth y meddwl, athroniaeth crefydd, philosophy of mathematics, philosophy of history |
Enw brodorol | φιλοσοφία |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae athroniaeth yn astudiaeth o broblemau cyffredinol a gwaelodol sy'n ymwneud â bodolaeth, gwybodaeth, gwerthoedd, rheswm ac iaith.[1][2]
Gellir gwahaniaethu rhwng athroniaeth a dulliau eraill sy'n ceisio ateb y cwestiynau hyn (e.e. cyfriniaeth, mytholeg neu'r celfyddydau) drwy ei dull systematig, gwyddonol a'i dibyniaeth ar ddadleuon rhesymegol.[3]
Mae llawer o Gymry wedi ymhel â chwestiynau mawr crefydd yn hytrach nag athroniaeth fel y cyfryw, a bu perthynas agos rhwng diwinyddiaeth ac athroniaeth yng Nghymru ers sawl canrif. Yr athronydd cyntaf y gwyddom amdano yng Nghymru oedd Edward Herbert (1583-1648), a gellid dadlau mai ystyriaethau crefyddol a chyfrinol oedd y tu ôl i'r hyn a ysgrifennai Morgan Llwyd (1619-1659) am yr hunan.
Y gair gwreiddiol am athroniaeth yn y Gorllewin oedd y gair Groeg φιλοσοφία (philosophia), sy'n golygu "cariad at wybodaeth".[4][5]
Gwybodaeth a gwirionedd
- Prif: Gwybodaeth (epistemoleg) a Gwirionedd
Yn ei ystyr athronyddol, y corff o ffeithiau, dealltwriaeth a medrau sydd gan berson neu grŵp yw gwybodaeth. Epistemoleg yw astudiaeth gwybodaeth.
Realiti
- Prif: Realiti
Y cyflwr o fod yn real, hynny yw pethau fel y maent yn wirioneddol fod yn hytrach nag fel y dymunir iddynt fod, yw realiti.
Yr hunan
- Prif: Hunan
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Metaffiseg
- Prif: Metaffiseg
Cangen o athroniaeth sy'n ymwneud ag egwyddorion sylfaenol yw metaffiseg. Ei nod yw cael gwybod am wir ystyr pethau a'u hanfod, ac felly mae'n astudio yn bennaf cysyniadau haniaethol, hynny yw pethau nad oes modd eu profi'n ddiriaethol.
Athroniaeth gymhwysol a rhyngddisgyblaethol
Athroniaeth wleidyddol
- Prif: Athroniaeth wleidyddol
Athroniaeth sy'n ymwneud â chysyniadau a dadleuon gwleidyddol yw athroniaeth wleidyddol. Mae'n astudio a thrafod pynciau megis rhyddid, cyfiawnder, hawliau a dyletswyddau, rhwymedigaethau, y gyfraith, eiddo, grym, awdurdod, systemau gwleidyddol, a natur llywodraeth, yn enwedig ei phwrpas, ei swyddogaethau a'i chyfreithlondeb.
Athroniaeth crefydd a diwinyddiaeth
- Prif: Athroniaeth crefydd a Diwinyddiaeth
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Athroniaeth y gwyddorau a rhesymeg
- Prif: Athroniaeth y gwyddorau a Rhesymeg
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Estheteg
- Prif: Estheteg
Cangen o athroniaeth yw estheteg sy'n ymwneud â natur prydferthwch, celfyddyd, a chwaeth. Nod estheteg yw i ddarparu meini prawf o ddelfrydau ar gyfer astudiaeth feirniadol o'r celfyddydau.
Moeseg
- Prif: Moeseg
Astudiaeth athronyddol maes moesoldeb, sef y cwestiwn mawr o "sut y dylem fyw", yw moeseg. Gellir rhannu hanes moeseg yn y Gorllewin yn sawl rhan, gan gychwyn gyda Groegiaid yr Henfyd a gwaith y Soffyddion fel Protagoras ac wedyn athronwyr mawr fel Socrates, Platon ac Aristotlys. Ar seiliau gwaith y Groegiaid ond dan ddylanwad ac ysbrydoliaeth amlwg y Testament Newydd, datblygodd moeseg Gristnogol. Un o foesegwyr mawr yr Oesoedd Canol oedd Thomas Aquinas a ddilynodd Aristotlys mewn sawl maes ond a roddodd y pwyslais ar y dyletswydd i ufuddhau i ddeddfau Duw. Yn y Cyfnod Modern newidiodd cyfeiriad moeseg a datblygodd Naturiolaeth Foesegol, a welir yng ngwaith Thomas Hobbes, er enghraifft. Ond daeth syniadau eraill i'r amlwg, rhai ohonynt yn wrthwynebus i syniadaeth Hobbes, a chafwyd sawl athroniaeth moes yn cynnwys Iwtilitariaeth, athroniaeth Immanuel Kant a moeseg ôl-Kantaidd, sy'n ymrannu'n sawl ffrwd.
Ethos bywyd yr unigolyn yw moeseg; moesoldeb yw'r agweddau sy'n ymwneud â phobl eraill a chymdeithas oll, megis dyletswyddau ac iawnderau. Delfrydau'r ddamcaniaeth foesol nodweddiadol yw cyffredinoliaeth ac amhleidioldeb, ac yn aml bydd y damcaniaethwr normadol yn llunio egwyddorion a safonau ymddygiad er mwyn byw'n moesegol. Mae rhai'n gweld y reddf ddynol a synnwyr cyffredin yn sylfeini moeseg. Hyd yn oedd mewn damcaniaethau sy'n honni eu bod yn hollgyffredinol, maent yn "feysydd ffrwydron" moesegol sy'n llawn cyfyng-gyngor a dilemâu sy'n ddadleuon cymhleth o egwyddorion, cafeatau, amodau arbennig, ac anghysondebau.
Hanes
Athroniaeth y Gorllewin
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Athroniaeth India
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Athroniaeth Dwyrain Asia
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Athroniaeth Affrica
Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.
Llinell amser
Rhai athronwyr enwog
- Hannah Arendt - Meddylwraig fodern
- Simone de Beauvoir
- Edmund Burke - Ceidwadwr cynnar
- Conffiwsiws (551-479 CC)
- René Descartes
- Thomas Hobbes - Athronydd glasurol Realaidd o Loegr
- David Hume
- Immanuel Kant
- John Locke - Tad rhyddfrydiaeth gyfalafol fodern
- Machiavelli - Athronydd glasurol Realaidd o'r Eidal
- Bertrand Russell
- Platon - Athronydd clasurol o Athen
- Aristoteles - Athronydd clasurol o Athen
- Socrates - "Tad Athroniaeth Orllewinol"
Rhai athronwyr o Gymru
- David Adams (1845 - 1923) ganed yn Nhal-y-bont, Ceredigion; athro a gweinidog; arloeswr y ddiwynyddiaeth ryddfrydol yng Nghymru.
- Lewis Edwards (1809 - 1887) Sgwennodd Athrawiaeth yr Iawn (1860)
- Thomas Charles Edwards Prifathro a Chadair athroniaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth a sefydlwyd yn 1872.
- D. Emrys Evans (1891 - 1966) Ganed yng Nghlydach; Prifathro Coleg y Brifysgol, Bangor.
- Edward Herbert (1538 - 1648); awdur De Veritate (1623)
- Henry Jones Athro athroniaeth ym Mhrifysgol Bangor a aeth wedyn yn athro athroniaeth yn Glasgow.
- R. Tudur Jones - Diwinydd ac athronydd Cristnogol Uniongred
- J.R. Jones - Athronydd Cymreig
- Hywel David Lewis (1910 - 1992) - Diwinydd ac athronydd Cymreig
- John Llewelyn (1928 -) Arbenigwr ar Derrida a Levinas
- Pelagius - (tua 350 - tua 418) Diwinydd ac athronydd Brythonig
- Dewi Z. Phillips (1934 - 2006) Golygydd y cyfnodolyn Philosophical Investigations.
- Richard Price (1723 - 1791) syniadaeth newydd ar "gyfrifoldeb"; cefnogwr bwrd o Chwyldro Ffrainc ac America.
- Rush Rhees Darlithydd dylanwadol ym Mhrifysgol Abertawe
- David Williams (1738 - 1816)