Armorica
Armorica neu Aremorica (Galeg: Aremorica; Llydaweg: Arvorig [arˈvoːrik]; Ffrangeg: Armorique [aʁmɔʁik]) yw'r enw a roddir yn yr hen amser i'r rhan o Gâl rhwng yr afonnydd Seina a'r Loir (Loire) sy'n cynnwys Penrhyn Llydaw, gan ymestyn tua'r tir i un pwynt amhenodol ac i lawr Arfordir yr Iwerydd.[1] Mewn cyd-destun gyfoes, fe'i defnyddir fel enw arall ar Lydaw mewn ffordd debyg i Cambria neu Gwalia am Gymru.
Enghraifft o'r canlynol | rhanbarth |
---|---|
Rhagflaenydd | Ymerodraeth Rufeinig y Gorllewin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hanes
Cyfnod Clasurol
Yn ei Hanes Naturiol, dywed Plinius yr Hynaf mai Armorica yw enw hynafol Aquitaine ac mae'n crybwyll bod y Pyreneau fel ymyl deheuol y rhanbarth. O ystyried tarddiad Galig yr enw, mae'r datganiad hwn yn gwneud synnwyr os ystyrir nad yw Armorica yn disgrifio gwlad benodol, ond rhanbarth daearyddol y mae ei nodwedd i fod yn wynebu'r môr.
Yr oeddynt yn byw yn Armorica, yn ol Iwl Cesar, llwythau y Coriosoliaid, y Redoniaid, yr Ambibari, y Caletii, yr Osismii, y Lexovii, y Veneti a'r Venelli. Nid yw Cesar yn sôn am y Namnetes y gwyddys eu bod yn byw ar ochr ddwyreiniol Afon Loir, ger ei cheg (Bro-Naoned yn Llydaw heddiw, a roddir eu enw i'r ddinas a'r rhanbarth). Roedd yr Abricantui, y Viducasses / Bodiocasses, ac efallai y Chorisopites hefyd, yn byw yn Armorica. Mae Plinius yr Hynaf yn sôn am yr Armoricians yn ôl pob tebyg yn cyfeirio at drigolion Armorica.
Roedd gan y Weriniaeth Rufain flynyddoedd maith o gysylltiadau masnachol â'r Gâliaid a'r Armoriciaid (gan wahaniaethu rhyngddynt). Fodd bynnag, dychwelodd Armorica gynnyrch Rhufain i'r Llydawyr a'r Belgiaid. Yn y modd hwn, gyda'r Rhyfel Gâl, llwyddodd Rhufain i gael gwared ar y cyfryngwr masnachol, a chyda hynny, ymestynnodd ei thiriogaeth i wneud iawn am y galw am dir gan y plebeiaid (gwerin) Rhufeinig.
Y Goncwest Rhufeinig
Disgrifiwyd y fasnach rhwng Armorica ac Ynysoedd Prydain gan Diodorus Siculus. Wedi ymgyrch Crassus yn 57 CC , cefnogwyd y gwrthwynebiad Armoricaidd i reolaeth y Rhufeiniaid gan aristocratiaid Celtaidd Prydain. Mewn ymateb, goresgynnodd Rhufain Brydain ddwywaith, yn 55 CC a 54 CC, dan orchymyn Iwl Cesar.
Cydffederai llwythau Armorica, y prif lwyth ohonynt oedd y Veneti, yn amser Iwl Cesar, ac ymunodd â gwrthryfel Vercingetorix[2] yn 52 CC. Rheolwyd y rhanbarth gan yr Ymerodraeth Rufeinig o ddiwedd Rhyfel Gâl hyd ddechrau'r bumed ganrif. Fodd bynnag, fe'i rheolwyd yn fwy arwynebol na gweddill Gâl, ac felly ni chwblhawyd y Rhufeiniaid yn llwyr.
Yn yr Ymerodraeth Rufeinig , roedd Armorica yn rhan o dalaith Gâl Lugdunensis, a'i phrifddinas yn Lugdunum (Lyon gyfoes). Pan ad-drefnwyd y taleithiau Rhufeinig yn y 4g, gosodwyd Armorica o dan ail a thrydedd adran Lugdunensis. Gwrthryfelodd Armorica yn erbyn Rhufain ar ddau achlysur yn y bumed ganrif, gan ddiarddel y swyddogion Rhufeinig yr ail waith.
Wedi'r Rhufeiniaid
Gwelodd penrhyn Llydaw fewnfudo pwysig o Geltiaid Prydeinig yn dod yn bennaf o ranbarthau presennol Cernyw a Chymru yn y 5g i'r 7g. Yn ystod y 9g a'r 10g, dechreuodd y Llychlynwyr ymgartrefu ym mhenrhyn Cotentin, a olygai nad oedd yr enw Armorica yn cael ei ddefnyddio, gan ffafrio enw Normandi.
Etymoleg
Roedd yr ardal forwrol hon o Gâl a'i chefnwlad yn hysbys ar y pryd yn Armorica Celtaidd neu Galaidd cyfandirol "y wlad sy'n wynebu'r môr", gwlad yr Aremorici "y rhai sy'n byw o flaen y môr, ger y môr": Armorica yw Lladineiddiad y term hwn.[3][4]
Gellir gwahaniaethu rhwng y tair elfen Geltaidd ganlynol yn yr enw:
- are yn dod o'r Indo-Ewropeeg cyffredin, p°ri- "o flaen, ger" (cf. Gwyddeleg aer, ar, i / o flaen; Cymraeg er, ymyl / i / gan; Llydaweg war neu ar, i ),
- mori "môr" (Gwyddeleg muir, genidol mara; thema yn "i"; Cymraeg a Llydaweg: môr/ mor, lle mae'r arvor cyfansawdd "gwlar ger y mîr" cf. Côtes-d'Armor, gyda threiglad o /m/ a / v/ nodweddiadol o ieithoedd Celtaidd modern)
- ôl-ddodiad -iko (lluosog -ici "y rhai", #ica, ffurf benywaidd) fel yn Mediomatrici, Arecomici, Latobici, ayyb; a -ika a ddefnyddir i greu enwau ac a ddarganfyddwn yn yr enwau gwledydd Utica (pays d'Ouche), Pertica (Comté du Perche), etc.
Mae sawl dyfyniad yn tystio i'r etymoleg hon:
Diverses citacions testifiquen aquesta etimologia:
Aremorici : antemorini quia are ante, more mare, morici marini.
Aremorici, antemarini quia are ante; cf. arm. mod. « arvor ».
—Joseph Loth, Chrestomathie bretonne, armoricain, gallois, cornique, Paris, Émile Bouillon, Llyfrgellydd-golygydd, 1890
Aremorici, (tardif : armorici) « antemarini », var. aremurici (Glossari de Viena) ; irl. « air », gall. bret. « ar- » « sur ».
—Georges Dottin, La Langue gauloise, grammaire, texte et Glossari, Paris, C.Klincksieck, 1920
En gaulois "Aremorica", anciennement " Paremorica ", " le (pays) devant la mer ", nom de la péninsule qui deviendra la Bretagne. Étaient dits aussi Armoricains à l'époque de César, les peuples riverains de la Manche.
—Paul-Marie Duval, Les Celtes, Gallimard, Paris, 1977
Defnydd cyfoes
Mae'r gair Armorica yn dal i fyw hyd at y dydd yma, ond fel rheol i gyfeirio at Llydaw.
- Arvorig FM - gorsaf radio lleol iaith Llydaweg
- Aodoù-an-Arvor - departement Llydewig a elwir hefyd yn Côtes-d'Armor yn Ffrangeg
- Asterix y Galiad - mae cyfresi cartŵn byd-enwog Asterix yn nodi ei fod yn mewn mewn "pentref bychan yn Armorica"
- Arfor Cymru - fel rhan o Cytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi Etholiad Senedd Cymru 2021 cytunwyd i roi cefnogaeth ariannol i weithgaredd economaidd i hyrwyddo gwaith yn ardal Arfor sef rhan orllewinnol Cymru.[5] Gwelir bod y term, os nad yr un ystyr, dal yn gyfredol yn y 21g.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol
- Martin Henig, adroddiad yn British Archaeology 72 (Medi 2003) Archifwyd 2012-07-19 yn y Peiriant Wayback.
- 56 BCE - The Fall of Armorica Sianel Isin Clay, 2023