Ann Davies (Plaid Cymru)
Mae Ann Davies yn ffarmwraig, dynes fusnes a chynghorydd ar Gyngor Sir Gaerfyrddin dros Blaid Cymru. Mae hi'n aelod seneddol San Steffan dros Gaerfyrddin ers yr Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2024.[1]
Ann Davies | |
---|---|
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | Aelod o 59ain Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Plaid Wleidyddol | Plaid Cymru ![]() |
Gyrfa
Mae gan Ann Davies brofiad yn y sector amaethyddiaeth ac mae hi wedi ffermio yn Llanarthne ers 1992. Mae hi hefyd yn gydberchennog meithrinfa leol a bu’n ddarlithydd mewn dysgu blynyddoedd cynnar ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a chyn hynny bu’n gweithio fel athro cerdd peripatetig.[2]
Mae Ann Davies, yn gynghorydd aelod cabinet dros faterion gwledig, cydlyniant cymunedol a pholisi cynllunio ar gyngor sir Gaerfyrddin.[3]
Danghosodd arolwg barn yn Chwefror 2024 bod Ann Davies ar y blaen i ennill 30% o bleidlais Caerfyrddin. Roedd y Torïaidd a Llafur yn gydradd ail gyda 24%; Jonathan Edwards fel ymgeisydd annibynol ar 10%; a’r Democratiaid Rhyddfrydol a Diwygio ar 4% yr un.[4]
Cyfeiriadau
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Alan Wynne Williams | Aelod Seneddol dros Gaerfyrddin 2024 – presennol | Olynydd: presennol |