Ann Coulter

Awdures Americanaidd yw Ann Coulter (ganwyd 8 Rhagfyr 1961) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel colofnydd, newyddiadurwr doethinebwr a chyfreithiwr.[1][2]

Ann Coulter
Ganwyd8 Rhagfyr 1961 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Man preswylConnecticut Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
AddysgPhD yn y Gyfraith Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcolofnydd, ysgrifennwr, newyddiadurwr, awdur, doethinebwr, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
Taldra183 centimetr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://anncoulter.com Edit this on Wikidata
llofnod

Fe'i ganed yn Ninas Efrog Newydd. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Cornell, Prifysgol Michigan, Ysgol y Gyfraith Prifysgol Michigan ac Ysgol Uwchradd New Canaan.[3]

Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o asgell dde eithafol y Blaid Weriniaethol.

Cafodd Coulter, a aned yn Ninas Efrog Newydd, ei magu yn New Canaan, Connecticut. Dyfnhaodd ei diddordebau ceidwadol wrth astudio hanes ym Mhrifysgol Cornell, lle cyd-sefydlodd The Cornell Review. Yn dilyn hynny, dechreuodd ar yrfa fel clerc y gyfraith cyn codi i amlygrwydd yn y 1990au am ei beirniadaeth di-flewyn ar dafod o'r Arlywydd Clinton. Roedd ei llyfr cyntaf yn ymwneud â'r cyhuddiadau yn erbyn Bill Clinton, ac yn deillio o'i phrofiad o ysgrifennu briffiau cyfreithiol ar gyfer cyfreithwyr Paula Jones (a gyhuddai Clinton o aflonyddu rhywiol, yn ogystal ag ysgrifennu colofnau am yr achosion.[4][5][6][7]

Mae ei cholofn ar gyfer Universal Press Syndicate yn ymddangos mewn nifer o bapurau newydd a gwefannau ceidwadol. Hyd at 2019 roedd wedi cyhoeddi 12 o lyfrau a fu ar restr 'Gwerthwyr Gorau'r New York Times .

Magwraeth

Ganed Hart Coulter i John Vincent Coulter (1926–2008), asiant gyda'r FBI o deulu Gwyddelig-Almaenig, a oedd yn enedigol o Albany, Efrog Newydd; a Nell Husbands Coulter (g. Martin; 1928–2009), brodor o Paducah, Kentucky.[8] Mae teulu mam Coulter yn yr Unol Daleithiau yn ymestyn yn ôl cyn Rhyfel Cartref America (1765 - 1783), tra bod cyndeidiau ei thad yn fewnfudwyr Gwyddelig ac Almaenig a gyrhaeddodd yr Unol Daleithiau yng nghanol y 19g.[9],[10] Mae ganddi ddau frawd hŷn: James, cyfrifydd, a John, cyfreithiwr.[11][12][13]

Coulter yn yr ysgol uwchradd, 1980

Cafodd ei magu mewn cartref ceidwadol yn Connecticut gan rieni Gweriniaethol, gyda thad a oedd yn eilynaddoli Joseph McCarthy. Dywed Coulter ei bod wedi nodi ei bod yn geidwadol ers meithrinfa. I baratoi ar gyfer dadleuon gwleidyddol, darllenodd lyfrau fel The Conscience of a Conservative gan Barry Goldwater.[14]

Yn 14 oed, ymwelodd Coulter â'i brawd hŷn yn Ninas Efrog Newydd, lle mynychodd John ysgol y gyfraith. Tra oedd yn y darlithoedd, rhoddodd sialens i'w chwaer chwaer fach i ddarllen llyfrau gan Milton Friedman a William E. Simon. Pan ddaeth gartref, holodd Coulter. Fel gwobr, aeth ef a'i ffrindiau â hi allan i dafarnau a dechreuodd freuddwydio am weithio fel awdur. Graddiodd o Ysgol Uwchradd New Canaan yn 1980.

Llyfryddiaeth

(hyd at 2019)

Anrhydeddau

Cyfeiriadau