Ana María Shua

Awdures doreithiog o'r Ariannin yw Ana María Shua (ganwyd 22 Ebrill 1951) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel bardd a sgriptiwr.[1]

Ana María Shua
Ganwyd22 Ebrill 1951, 1951 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Ariannin Yr Ariannin
Alma mater
  • Colegio Nacional de Buenos Aires
  • Cyfadran Athroniaeth a'r Dyniaethau Prifysgol Buenos Aires Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, sgriptiwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Buenos Aires Edit this on Wikidata
Adnabyddus amLa muerte como efecto secundario Edit this on Wikidata
Arddullffuglen Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.anamariashua.com.ar/ Edit this on Wikidata

Mae ei gwaith wedi'i gyfieithu i lawer o ieithoedd, gan gynnwys Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Portiwgaleg, Iseldireg, Swedeg, Coreeg, Siapanaeg, Bwlgareg a Serbeg. Mae ei straeon yn ymddangos mewn blodeugerddi ledled y byd. Derbyniodd nifer o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys Cymrodoriaeth Guggenheim, ac mae'n un o brif awduron byw'r Ariannin. Yn adnabyddus iawn yn y byd Sbaeneg, caiff ei hadnabod ar ddwy ochr yr Iwerydd fel "Brenhines y Microstory".[1][2][3][4]

Addysg ac alltudiaeth

Fe'i ganed yn Buenos Aires ar 22 Ebrill 1951. Cyhoeddodd ei chyfrol gyntaf, cyfrol o farddoniaeth o'r enw El sol y yo, yn 1967 pan oedd yn 15 oed, ac am ei thrafferth, derbyniodd y "Stribed Anrhydedd" gan Gymdeithas Awduron yr Ariannin. Wedi iddi adael yr ysgol mynychodd Golegio Nacional de Buenos Aires a Chyfadran Athroniaeth a'r Dyniaethau, Prifysgol Buenos Aires, lle derbyniodd Radd Meistr. Yn ystod unbennaeth milwrol diwethaf y wlad, hunan-alltudiodd i ffrainc, lle gweithiodd i'r cylchgrawn Sbaeneg Cambio 16.[5][6][7][8]

Ar ôl dychwelyd i'r Ariannin, cyhoeddodd ei nofel gyntaf, o'r enw Soy paciente, a hynny yn 1980; enillodd wobr gan gwmni cyhoeddi Losada am y nofel hon. Yn 1984, cyhoeddodd La sueñera, casgliad o ffuglen-micro. Mae hi wedi gweithio fel newyddiadurwr, cyhoeddwr, a sgriptiwr, gan addasu rhai o'i ysgrifau. Mae hi hefyd wedi ysgrifennu llyfrau i blant, a derbyniodd rai gwobrau rhyngwladol.

Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: La muerte como efecto secundario.

Aelodaeth

Bu'n aelod o Academia Norteamericana de la Lengua Española am rai blynyddoedd.[9]

Anrhydeddau


Cyfeiriadau