Aïno Ackté
soprano o'r Ffindir
Soprano operatig o'r Ffindir oedd Aïno Ackté (24 Ebrill 1876 –8 Awst 1944). Astudiodd dan arweiniad ei mam, y soprano operatig Emmy Achté (1850–1924) tan 1894, pan aeth i Ffrainc a'r Conservatoire de Paris. Marguerite yn Faust Gounod yn Opera Paris ym 1897 oedd ei rôl gyntaf ar y llwyfan. O 1904 i 1906 ymddangosodd ar lwyfan Opera Metropolitan, Efrog Newydd. Canodd y rhan deitl yn Salome Richard Strauss yn Leipzig (1907) a Llundain (1910), a chafodd clod mawr. Dychwelodd i'r Ffindir ym 1911 a pherfformio a threfnu opera yno am y rhan fwyaf o weddill ei hoes.[1]
Aïno Ackté | |
---|---|
Ganwyd | 24 Ebrill 1876 Helsinki |
Bu farw | 8 Awst 1944 Nummela |
Man preswyl | Aino Acktén huvila |
Label recordio | Fonotipia |
Dinasyddiaeth | y Ffindir |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr opera, libretydd |
Arddull | cerddoriaeth glasurol |
Math o lais | soprano |
Tad | Lorenz Nikolai Achté |
Mam | Emmy Achté |
Priod | Heikki Renvall, Bruno Jalander |
Plant | Gogoniant Leppänen, Mies Reenkola |
Gwobr/au | Finnish Music Hall of Fame, Cross of Merit of the Order of the White Rose of Finland, Medal Diwylliant ac Addysg, officier de l’Instruction publique, officier d'académie, Addurniad Croes Goch yr Almaen |
Priododd â Heikki Renvall ym 1901. Bu iddynt ddau o blant, Glory (g. 1901)[2] a Mies Reenkola (g. 1908).[3]
Cyfeiriadau
🔥 Top keywords: Wicipedia:Cysylltwch â niHafanArbennig:SearchA470XXX: Return of Xander CageHebog tramorArbennig:RecentChangesTübingenYr Ail Ryfel BydCategori:Ffilmiau o'r British RajSiôn Daniel YoungWicipedia:Gwadiad CyffredinolWikipediaCymruWicipedia:Cymorth28 TachweddMici PlwmHentai KamenWicipedia:Ynglŷn â WicipediaWicipedia:Porth y GymunedCyfathrach rywiolPrifysgol Eberhard Karl TübingenSafleoedd rhyw35 DiwrnodFleur de LysCymraeg14 GorffennafDonald TrumpEva StrautmannSpecial:SearchWicipedia:Y CaffiCelt (band)HelaWicipedia CymraegVoice of AmericaYmgais i lofruddio Donald TrumpWicipedia:CymraegSex and The Single GirlBoulevard Nights