Newyddiadurwr, bardd, dramodydd ac awdur plant Gwyddelig yw Áine Ní Ghlinn (ganwyd 1955). Mae hi'n Llawryfog na nÓg ("Bardd Plant Iwerddon") ers 2020.[1] Mae hi'n dwyieithog ond y Bardd Plant cyntaf i ysgrifennu yn y Wyddeleg yn unig. [2] Mae hi'n byw yn Nulyn.
Cafodd Ní Ghlinn ei geni yn Swydd Tipperary. Cafodd ei addysg yng Nghwfaint Cyflwyno yn Thurles ac wedyn yng Ngholeg Prifysgol Dulyn lle cafodd gradd mewn Gwyddeleg a Saesneg.